Ysgol Sy'n Parchu Hawliau
Mae Gwobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF y DU (RRSA) yn seiliedig ar egwyddorion cydraddoldeb, urddas, parch, peidio â gwahaniaethu a chyfranogiad. Mae’r RRSA yn ceisio gosod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth galon ethos a diwylliant ysgol i wella llesiant a datblygu doniau a galluoedd pob plentyn i’w llawn botensial. Mae ysgol sy’n parchu hawliau yn gymuned lle mae hawliau plant yn cael eu dysgu, eu haddysgu, eu hymarfer, eu parchu, eu hamddiffyn a’u hyrwyddo. Mae pobl ifanc a chymuned yr ysgol yn dysgu am hawliau plant trwy eu rhoi ar waith bob dydd. Teimlwn ei bod yn bwysig pan fydd plant yn dysgu am eu hawliau ei bod yn bwysig bod cysylltiadau dyfnach hefyd yn cael eu gwneud yn eu dealltwriaeth o natur hawliau.