Cinio Ysgol
Hoffem i’ch plentyn fanteisio ar y cyfle i fwyta prydau iachus, ardderchog trwy dderbyn cinio ysgol. Mae ein Cogydd Ysgol yn darparu bwydlen faith a bwydydd maethlon cytbwys ac mae’r disgyblion yn eu mwynhau.
Rydym yn Ysgol Bwyta’n Iach ac mae gennym dystysgrifau a gwobrau am hyrwyddo arfer dda ar gyfer iechyd a lles.
Mae Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn ysgol arlwyo di-arian parod ac mae holl daliadau a dewisiadau bwyd yn cael eu gwneud ar-lein drwy wefan ParentPay. Bydd pob rhiant yn derbyn manylion mewngofnodi a gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth wrth ddechrau yn yr ysgol.
Atgoffir rhieni bod rhaid archebu prydau ysgol ymlaen llaw!
Cinio Ysgol Rhad ac am Ddim
Mae BOB disgybl yn gymwys i dderbyn cinio ysgol AM DDIM bob ddd!
Cinio Pecyn
Os ydy eich plentyn yn dewis dod â brechdanau / bocs bwyd i’r ysgol, erfyniwn arnoch i sicrhau fod y pryd yn un iachus. Nid ydym yn caniatáu i’r plant i ddod â siocled, diod pefriog na losin i’r ysgol.