Arolwg Estyn
Arolwg Estyn
Caiff Estyn ei arwain gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ac mae’n arolygu ansawdd a safonau.
Mae’n gorff y Goron a sefydlwyd o dan Ddeddf Addysg 1992. Mae Estyn yn annibynnol ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ond mae’n derbyn ei gyllid gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998.
Ystyr y gair Estyn yw ‘cyrraedd’ ac ‘ymestyn’.
Cafodd yr ysgol hon ei harolygu gan Estyn ym mis Hydref 2024.
Crynodeb o adroddiad arolygiad Estyn 2024 – Ysgol Gymraeg Pwll Coch
Mae Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn gymuned ddysgu egnïol a chynhwysol lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae diwylliant cryf o gynhwysiant yn greiddiol i’r ysgol. Arfer hynod effeithiol o’r ddarpariaeth gynhwysol yw’r modd mae staff yn integreiddio disgyblion o’r CAA i fywyd yr ysgol ac yn dangos ymroddiad cadarnhaol at gynwysoldeb.
Mae staff yn darparu cyfleoedd eang o fewn y meysydd dysgu ac yn cydweithio ar draws blynyddoedd i gynllunio profiadau cyfoethog sy’n datblygu medrau’r disgyblion yn bwrpasol.
Cryfder amlwg yr ysgol yw dealltwriaeth disgyblion o’u hanes, treftadaeth leol a diwylliant cenedlaethol. Maent yn dathlu balchder ieithyddol a’u hamrywiaeth yn llwyddiannus sy’n atgyfnerthu eu harwyddair: ‘teulu mawr ŷm ni i gyd’ yn dda.
Darperir cymuned ddysgu hapus sy’n dathlu Cymreictod a threftadaeth yr ardal yn llwyddiannus. Mae staff yn arddel gwerthoedd moesol ac amlddiwylliannol yr ysgol a’i chymuned yn feistrolgar. Maent yn dathlu a pharchu bod pawb yn wahanol, ac yn cyfarch pob disgybl fel rhan annatod o deulu’r ysgol. Mae’r agwedd hon yn rhinwedd nodedig o ddarpariaeth yr ysgol.