Diogelu ac Amddiffyn Plant
Mae gan Ysgol Gymraeg Pwll Coch ddyletswydd fugeiliol tuag at ei disgyblion, mae’r ysgol yn chwarae rhan bwysig i atal camdriniaeth ac esgeulustod drwy greu a chynnal awyrgylch ddiogel i blant a phobl ifanc.
Mae pob aelod o staff yr ysgol hon yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn y plant sy’n ei mynychu. Os oes pryderon ynglŷn ag esgeulustra neu gam-drin corfforol, emosiynol neu rywiol, yna mae’n ddyletswydd ar y staff, yn unol â Threfn Diogelu Plant y Sir, i sôn am y mater wrth Gyd-gysylltydd Diogelu Plant yr ysgol.
Gall Cyd-gysylltydd yr ysgol ymgynghori â chyd-weithwyr proffesiynol yn ogystal ag asiantaethau perthnasol megis y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol. Yn dilyn y trafodaethau hyn, efallai y bydd rhaid i gyd-gysylltydd yr ysgol gyfeirio’r plentyn yn swyddogol i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, yn unol â chanllawiau a phrotocol y Sir. Yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n penderfynu a oes angen gweithredu neu beidio.
Oblegid natur y cyhuddiadau, ni fydd bob amser yn briodol i drafod materion gyda’r rhieni cyn cyfeirio'r plentyn. Y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Heddlu sy’n gyfrifol am ymchwilio i gyhuddiadau.
Mae’r ysgol yn dilyn Protocol Sir Caerdydd a phe bai cyhuddiad yn erbyn aelod o staff fe fyddai’r ysgol yn dilyn camau gweithredu’r Sir.
- Swyddog Diogelu ac Amddiffyn Plant Dynodedig: Mr Dewi Rees
- Dirprwy Swyddogion Diogelu ac Amddiffyn Plant Dynodedig: Mrs Samantha Sampson
- Llywodraethwr Diogelu ac Amddiffyn Plant: Mrs Nona Gruffudd-Evans