Arolwg AEM - Estyn
Arolwg Estyn
Caiff Estyn ei arwain gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ac mae’n arolygu ansawdd a safonau.
Mae’n gorff y Goron a sefydlwyd o dan Ddeddf Addysg 1992. Mae Estyn yn annibynnol ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ond mae’n derbyn ei gyllid gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998.
Ystyr y gair Estyn yw ‘cyrraedd’ ac ‘ymestyn’.
Cafodd yr ysgol hon ei harolygu gan Estyn ym mis Chwefror 2018.
Crynodeb o adroddiad arolygiad Estyn 2018 – Ysgol Gymraeg Pwll Coch
Mae staff yn creu ethos hapus, gofalgar a chynhwysol yn yr ysgol, lle mae pawb yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi. Mae’r ysgol yn rhoi bri amlwg ar gefndiroedd a diwylliannau amrywiol disgyblion. Mae ansawdd yr addysgu gan amlaf yn dda ac yn meithrin awyrgylch dysgu cefnogol a gweithgar. Mae disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn ac maent yn awyddus i ddysgu.
Mae athrawon yn cynllunio profiadau dysgu ymarferol, ysgogol a chyfoethog, sy’n darparu ar gyfer anghenion disgyblion yn effeithiol. O ganlyniad, mae rhan fwyaf y disgyblion yn gwneud cynnydd cadarn, yn cyflawni’n dda ac yn defnyddio eu medrau i safon uchel erbyn diwedd cyfnod allweddol 2.
Mae’r ysgol yn elwa o arweinyddiaeth gadarn sy’n sicrhau cyfeiriad strategol clir i waith yr ysgol. Mae arweinwyr yn hynod effeithiol wrth osod a hybu gweledigaeth sy’n canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd gwaith ac anelu at ragoriaeth. Caiff arweinwyr gefnogaeth gref gan staff, sydd oll yn credu yng ngweledigaeth yr ysgol ac yn gweithio tuag at ei chyflawni.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, a'r Cynghorydd Sarah Merry: "Llongyfarchiadau i Mr Newcombe, yr holl staff, disgyblion, llywodraethwyr a phawb sydd yn ymwneud ag Ysgol Pwll Coch yn llwyddo i ennill cystal canlyniadau da yn arolygon Estyn. Gwn fod pawb yn yr ysgol wedi rhoi cymaint o waith caled er mwyn sicrhau y llwyddiant hwn, ac rwy hefyd yn gwybod am yr ymrwymiad a'r penderfyniad sydd ganddynt i weithio tuag at ragoriaeth yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen i gael ychwanegu fy llongyfarchion yn bersonol pan fyddaf yn ymweld nesaf ag Ysgol Pwll Coch."